Meetup/Cardiff/6/cy
| Upcoming (calendar) | |
|---|---|
| Cardiff 6 | 22 January |
| London 223 | 14 December |
| Recent | |
| Brixton 12 | 1 December |
| Brighton 7 | 29 November |
| Edinburgh 25 | 29 November |
| Aberdeen 7 | 24 November |
| Oxford 117 | 23 November |
| London 222 | 9 November |
| Cardiff 5 | 6 November |
| Portsmouth 4 | 25 October |
| Exeter 5 | 25 October |
| MW virtual 3 | 24 January |
| Regular | |
| List of regular meetups | |
| Archives | |
| London · Hong Kong | |
Cyfarfod Wikimedia Caerdydd Rhif 6
[edit]Dydd Iau 22ain Ionawr 2026 6pm i 8pm
[edit]Lleoiliad: Bru Coffee (Heol y Frenhines), 105 - 107 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2BG
(ymunwch unrhyw bryd y gallwch, does dim angen aros ar gyfer y digwyddiad cyfan)
Beth yw'r Wicigwrdd hwn?
[edit]Mae hwn yn ddigwyddiad cymdeithasol anffurfiol i bobl yng Nghaerdydd a'r cyffiniau gwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb yn y Wicipedia.
Dros baned a byrbrydau (dewisol) gallwn ddod i adnabod ein gilydd ychydig, siarad am y gwahanol brosiectau rydym yn gweithio arnynt (neu hoffem gymryd rhan ynddynt), gofyn am rywfaint o wybodaeth neu gyngor ar rywbeth neu siarad am ba fath o weithgareddau Wici wyneb yn wyneb y byddem yn eu hoffi yng Nghaerdydd.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
[edit]Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipediwyr brwd iawn, ond mae hwn hefyd yn wahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a'i chwaer brosiectau (naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg).
Ydy hwn yn ddigwyddiad Cymraeg neu Saesneg?
[edit]Y ddau! Y naill! Os hoffech siarad Cymraeg, mae'r trefnwyr Gemma a Rhys ill dau yn ddwyieithog ac yn hapus i sgwrsio â chi naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg. Fodd bynnag, pa bynnag iaith/ieithoedd rydych yn golygu Wici ynddi (neu hoffech olygu ynddynt), cewch groeso cynnes a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynnwys.
Dod o hyd i ni
[edit]Mae gan Bru Coffee ddau leoliad yng Nghaerdydd ac mae'r un hwn ar Heol y Frenhines.
Os ydych chi'n teithio ar y trên, mae'n daith gerdded fer (0.2 milltir) o orsaf Heol y Frenhines ac yn bellter tebyg o safleoedd bysiau Dumfries Place a Churchill Way.
Edrychwch allan am fwrdd gyda deunyddiau Wicipedia! Efallai y byddwn tuag at y cefn mewn ystafell dawelach. Os ydych yn bryderus, anfonwch neges at User:Gemma Coleman (WMUK) a gallaf roi fy rhif ffôn symudol i chi i'ch helpu i ddod o hyd i ni ar y noson.
Mynychu
[edit]Llofnodwch isod os ydych yn bwriadu dod. Os ydych am gael eich atgoffa yn nes at yr amser, gadewch nodyn ar ôl eich llofnod.
- OwenBlacker (Talk; he/him) 09:42, 17 December 2025 (UTC)
Cofrestriadau wedi'u copïo o'r dudalen Saesneg
[edit]- Ychwanegwch cofrestriadau yma
Mae diddordeb gyda fi, ond alla i ddim dod y tro hwn
[edit]Llofnodwch isod os na allwch ddod y tro hwn ond byddai gennych ddiddordeb mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
- Ychwanegwch eich enw yma
Negeseuon wedi'u copïo o'r dudalen Saesneg
[edit]- Ychwanegwch cofrestriadau yma