William Pitt
Gwedd
| William Pitt | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Mai 1759 Caint |
| Bu farw | 23 Ionawr 1806 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
| Swydd | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd |
| Plaid Wleidyddol | Tori |
| Tad | William Pitt, Iarll Chatham 1af |
| Mam | Hester Pitt, Iarlles Chatham |
| llofnod | |
Gwleidydd o Loegr oedd William Pitt (weithiau William Pitt yr Ieuengaf; 28 Mai 1759 – 23 Ionawr 1806). Bu'n Brif Weinidog Teyrnas Prydain Fawr (1782 – Mawrth 1783, Rhagfyr 1783 – 1801), a'r Deyrnas Unedig ar ôl hynny (1804 – 1806).
Cafodd ei eni yn Hayes Place, Caint, yn fab i'r gwleidydd William Pitt, Iarll 1af Chatham; gelwir y mab yn 'Pitt yr Ieuengaf' i wahaniaethu rhyngddo a'i dad, 'Pitt yr Hynaf'. Roedd ei fam, Hester Grenville, yn chwaer i'r prif weinidog George Grenville. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt.