Wganda
| Gweriniaeth Wganda Jamhuri ya Uganda (Swahili) | |
| Arwyddair | Tros Dduw a Fy Ngwlad |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad |
| Prifddinas | Kampala |
| Poblogaeth | 47,123,531 |
| Sefydlwyd | 9 Hydref 1962 (Dominiwn: Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) 9 Hydref 1963 (Gweriniaeth) |
| Anthem | O, Wganda, Gwlad Prydferthwch! |
| Pennaeth llywodraeth | Robinah Nabbanja |
| Cylchfa amser | UTC+03:00, Africa/Kampala |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Swahili |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 241,038 ±1 km² |
| Yn ffinio gyda | Cenia, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Rwanda, Tansanïa, Swdan, Llyn Victoria |
| Cyfesurynnau | 1.3°N 32.4°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Wganda |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Wganda |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wganda |
| Pennaeth y wladwriaeth | Yoweri Museveni |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wganda |
| Pennaeth y Llywodraeth | Robinah Nabbanja |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $40,510 million, $45,559 million |
| Arian | Swllt Wganda |
| Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 5.775 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.525 |
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Wganda, neu Wganda yn syml (hefyd Iwganda). Mae De Swdan i'r gogledd ohoni, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Kinshasa) i'r gorllewin, Rwanda a Tansanïa i'r de, a Cenia i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad o'r fath ar ôl Ethiopia. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o Lyn Victoria. Mae hefyd ym masn a tharddle'r Afon Nîl ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan mwyaf yn gyhydeddol.
Mae hi'n wlad annibynnol ers 1962 pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw Kampala. Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ôl, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.
Bu Ymerodraeth Prydain yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (protectorate) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.
Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.[1] Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae Lwganda, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Arlywydd y wlad (2020) yw Yoweri Museveni, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.
