Umbria
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Umbri |
| Prifddinas | Perugia |
| Poblogaeth | 882,015 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Donatella Tesei |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Bethlehem |
| Nawddsant | Ffransis o Assisi |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Central Italy |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 8,456 km² |
| Uwch y môr | 493 metr |
| Yn ffinio gyda | Toscana, Marche, Lazio |
| Cyfesurynnau | 42.98°N 12.57°E |
| IT-55 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Umbria |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Umbria |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Umbria |
| Pennaeth y Llywodraeth | Donatella Tesei |
![]() | |
Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Umbria neu weithiau yn Gymraeg Wmbria.[1] Periwgia (Eidaleg: Perugia) yw'r brifddinas; dinas bwysig arall yw Terni, ac mae Assisi yn y rhanbarth yma.
Mae Umbria yn ffinio ar ranbarthau Toscana yn y gorllewin, Marche yn y dwyrain a Lazio yn y de. Ceir mynyddoedd yr Apenninau yn nwyrain y dalaith; y copa uchaf yw Monte Vettore, 2,476 medr o uchder. Mae afon Tiber yn llifo trwy'r rhanbarth ac yn ffurfio'r ffin â Lazio.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 884,268.[2]
Cafodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth yr Umbri, a ymsefydlodd yn yr ardal yn y 6g CC. Yn ddiweddarach, concrwyd llawer o'r diriogaeth gan yr Etrwsciaid, yna meddiannwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid.

Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Umbria].
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan swyddogol y Rhanbarth Archifwyd 2011-02-11 yn y Peiriant Wayback
| |||||||
