Tucson
| Math | dinas fawr, dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig |
|---|---|
| Poblogaeth | 542,629 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Regina Romero |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
| Gefeilldref/i | Pécs, Nouakchott, Fiesole, Segovia, Hermosillo, Almaty, Sulaymaniyah, Ciudad Obregón, Guadalajara, Tríkala |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | South Central Arizona |
| Sir | Pima County |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 598.609855 km², 588.015521 km² |
| Uwch y môr | 728 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | South Tucson |
| Cyfesurynnau | 32.2217°N 110.9264°W |
| Cod post | 85701, 85702, 85703, 85704, 85705, 85706, 85707, 85708, 85709, 85710, 85711, 85712, 85713, 85714, 85715, 85716, 85717, 85718, 85719, 85721, 85723, 85724, 85725, 85726, 85728, 85730, 85731, 85732, 85733, 85734, 85735, 85736, 85737, 85739, 85740, 85741, 85742, 85743, 85744, 85745, 85746, 85747, 85748, 85749, 85750, 85751, 85752, 85754, 85755, 85756, 85757, 85775 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Tucson, Arizona |
| Pennaeth y Llywodraeth | Regina Romero |
![]() | |
Dinas yw Tucson yn nhalaith Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA), sy'n ddinas sirol Pima County. Fe'i lleolir 118 milltir (188 km) i'r de-ddwyrain o Phoenix a 60 milltir (98 km) i'r gogledd o'r ffin rhwng UDA a Mecsico. Poblogaeth: 525,529 (2006) gyda 1,023,320 yn byw yn yr ardal fetropolitaidd (2008). Yn 2005, Tucson oedd y ddinas 32fed fwyaf yn yr Unol Daleithiau a'r 52fed fwyaf ardal fetropolitaidd. Hi yw'r ddinas fwyaf yn ne Arizona a'r ail fwyaf yn y dalaith gyfan. Lleolir Prifysgol Arizona yn Tucson. Mae'n gorwedd ar lannau Afon Santa Cruz.
Mae'r maesdrefi mawr yn cynnwys Oro Valley, Marana, Sahuarita, a South Tucson. Mae cymunedau cyfagos, rhai ohonynt yn rhannol yn y ddinas, yn cynnwys Casas Adobes, Catalina, Catalina Foothills, Flowing Wells, Green Valley, Tanque Verde, New Pascua, Vail a Benson.
Mae'r enw Tucson yn deillio o'r enw Sbaeneg ar y ddinas, Tucsón, a fenthycwyd o'r enw O'odham (Indiaidd) Cuk Ṣon, sy'n golygu "wrth odre'r [mynydd] du", sy'n gyfeiriad at fynydd folcanig ger llaw. Yn Arizona, cyfeirir at Tucson weithiau fel "The Old Pueblo".
Gefeilldrefi Tucson
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol dinas Tucson
