Thesews
Ffresco o Pompeii sy'n dangos Thesews ar ôl lladd y Minotor wrth iddo ryddhau bechgyn caeth | |
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg |
|---|---|
| Dod i'r brig | 15 g CC |
| Dod i ben | 14 g CC |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07pdy |

Arwr a brenin Athen ym mytholeg Roeg oedd Thesews[1] (Thiséas - Hen Roeg: Θησεύς; Saesneg Theseus). Roedd yn fab i Aethra a'r duw Poseidon.
Dywedir fod ganddo balas ar safle'r Acropolis, ac mai ef a unodd Atica gyntaf. Yn Y Llyffantod, dywed Aristophanes mai ef a sefydlodd lawer o draddodiadau Athen.
Yn ôl un chwedl, roedd Athen yn gorfod gyrru saith dyn ieuanc a saith merch ieuanc i Minos, brenin Creta bob blwyddyn fel teyrnged, a byddent yn cael eu bwydo i'r Minotor, anghenfil oedd yn hanner dyn a hanner tarw, oedd wedi ei genhedlu gan darw ar Pasiphaë, gwraig Minos. Ymunodd Thesews a'r rhai oedd yn cael eu gyrru i Minos un flwyddyn, a chyda chymorth Ariadne, merch Minos, lladdodd y Minotor.
Yn ôl traddodiad, claddwyd ef yn yr Hephaisteion yn Athen.
Mae Thesews i'w weld yn y ddrama Oidipos yn Colonos.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Theseus"