The Independent
| Enghraifft o: | papur dyddiol, papur newydd arlein  | 
|---|---|
| Idioleg | Rhyddfrydiaeth, rhyddfrydiaeth economaidd  | 
| Gwlad | y Deyrnas Unedig  | 
| Iaith | Saesneg Prydain, Saesneg  | 
| Dechrau/Sefydlu | 1986  | 
| Dechreuwyd | 1986  | 
| Lleoliad cyhoeddi | y Deyrnas Unedig  | 
| Perchennog | Alexander Lebedev  | 
| Yn cynnwys | Independent on Sunday  | 
| Pencadlys | Llundain  | 
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig  | 
| Gwefan | https://independent.co.uk, https://www.the-independent.com  | 
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0q4tw  | 
Papur newydd Prydeinig ydy The Independent, a gyhoeddir gan gwmni Independent News & Media Tony O'Reilly. Caiff y llysenw, yr Indy, tra gelwir y rhifyn Sul, The Independent on Sunday, yn Sindy. Lawnswyd ym 1986, ac mae'n un o bapurau dyddiol ifengaf y Deyrnas Unedig. Cafodd ei enwi'n Bapur Newydd Cenedlethol y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Wasg Brydeinig yn 2004. Papur newydd argrafflen oeddi'n wreddiol, ond cyhoeddwyd yn y fformat tabloid ers 2003.
Mae The Independent yn gogwyddo i'r chwith yn wleidyddol,[1] ond nid yw wedi cysylltu ei hun gydag unrhyw blaid wleidyddol a gellir canfod ystod o safbwyntiau yn yr olygyddiaeth a'r tudalennau sylwebaeth.
Mae gan y papur gylchrediad ar gyfartaledd o 215,504 ym mis Ionawr 2009, disgynodd hyn 14.02% i gymharu â Ionawr 2008, ac mae'n isel i gymharu â cylchrediadau 842,912 The Daily Telegraph, 617,483 The Times, a 358,844 The Guardian.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ U.K. paper follows rivals into tabloid format: At The Times, size matters. International Herald Tribune (8 Rhagfyr 2003).