St. Louis, Missouri
| Math | dinas fawr, dinas annibynnol, dinas yn yr Unol Daleithiau |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Louis IX, brenin Ffrainc |
| Poblogaeth | 301,578 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Tishaura Jones |
| Gefeilldref/i | Bologna, Bogor, Brčko, Dún na nGall, Gaillimh, Lyon, Nanjing, Saint-Louis, São Luís, Samara, San Luis Potosí, Stuttgart, Suwa, Szczecin, Wuhan, Yokneam Illit, Swydd Donegal, Georgetown, Rosario |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Missouri |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 171.02625 km² |
| Uwch y môr | 149 metr |
| Gerllaw | Afon Mississippi |
| Yn ffinio gyda | St. Louis County, Madison County, St. Clair County |
| Cyfesurynnau | 38.6264°N 90.1994°W |
| Cod post | 63101, 63102, 63103, 63104, 63105, 63106, 63107, 63108, 63109, 63110, 63111, 63112, 63113, 63114, 63115, 63116, 63117, 63118, 63119, 63120, 63121, 63122, 63123, 63124, 63125, 63126, 63127, 63128, 63129, 63130, 63131, 63132, 63133, 63134, 63135, 63136, 63137, 63138, 63139, 63140, 63141, 63143, 63144, 63145, 63146, 63147, 63150, 63151, 63155, 63156, 63157, 63158, 63160, 63163, 63164, 63166, 63167, 63169, 63171, 63177, 63178, 63179, 63180, 63188, 63195, 63197, 63199 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer St. Louis |
| Pennaeth y Llywodraeth | Tishaura Jones |
![]() | |
Dinas annibynnol yn nhalaith Missouri, Unol Daleithiau America yw St. Louis. Mae ganddi boblogaeth o 318,069,[1] sy'n ei gwneud yr ail dref fwyaf yn y talaith, ac mae ei harwynebedd yn 171.3 km².[2] Cafodd ei sefydlu (neu ei ymgorffori) yn y flwyddyn 1764.
Dewiswyd safle’r ddinas yn y fan lle mae Afon Missouri’n ymuno âg Afon Mississippi, i fod yn safle marchnata crwyn ym 1764 gan Pierre Laclede Liguest ac Auguste Chouteau. Adeiladwyd pentref, wedi enwi ar ôl brenin Louis IX o Ffrainc, ym 1765. Daeth yr ardal yn eiddo i Sbaen ym 1770, wedyn yn ôl i Ffrainc, ac ar ôl Pwrcas Louisiana ym 1803, yn rhan o’r Unol Daleithiau. Erbyn yr 1890au, roedd St Louis yn bedwerydd ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau ar rhan maint. Daeth Ffair y Byd a’r Gemau Olympaidd i’r ddinas ym 1904, ac ymwelodd dros 20 miliwn o bobl.[3]
Symudodd miloedd o bobl duon o daleithiau’r De rhwng y rhyfeloedd byd. Erbyn 1940, poblogaeth y ddinas oedd 800,000, ac erbyn 1950, 856,000. Roedd tiriogaeth y ddinas yn llawn, a symudodd pobl i Sir St Louis. Erbyn 1980, roedd poblogaeth y ddinas wedi syrthio i 450,000, er oedd canol y ddinas yn lle bywiog.. Adeiladwyd stadiwm pêl-fâs Cardinals St Louis ac un arall ar gyfer Rams St Louis, y tîm pêl-droed Americanaidd, ac adeiladwyd rheilffordd Metrolink St Louis.[3]


Gefeilldrefi St. Louis
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Table 1: 2010 Munnicipality Population". 2010 Population. United States Census Bureau, Rhaniad y boblogaeth. 2010-03-24. Unknown parameter
|[url=ignored (help); Missing or empty|url=(help);|access-date=requires|url=(help) - ↑ Poblogaeth St. Louis, Missouri Archifwyd 2006-08-25 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 22 Mehefin 2010
- ↑ 3.0 3.1 Gwefan y ddinas
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Dinas St. Louis
