Saint Helena
Gwedd
| Math | ynys, Trefedigaeth y Goron |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Helena o Gaergystennin |
| Poblogaeth | 3,924 |
| Cylchfa amser | UTC+00:00, Atlantic/St_Helena |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Saint Helena |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 121 km² |
| Uwch y môr | 818 metr |
| Gerllaw | De Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 15.95°S 5.72°W |
| Hyd | 15 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
| Manylion | |
Ynys o darddiad folcanig yn ne Cefnfor Iwerydd yw Saint Helena. Fe'i lleolir tua 1,950 km i'r gorllewin o dde-orllewin Affrica. Mae'n ffurfio rhan o Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha, tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sy'n cynnwys Ynys Ascension, 1,000 km i'r gogledd-orllewin o Saint Helena, ac ynysoedd Tristan da Cunha, 2,100 km i'r de.
Darganfuwyd Saint Helena ym 1502 gan y Portiwgaliaid. Enwyd yr ynys ar ôl Helena o Gaergystennin. Fe'i gwladychwyd gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ym 1659. Mae nifer o garcharorion wedi cael eu halltudio i'r ynys, er enghraifft Napoleon Bonaparte o 1815 hyd 1821.
