Robert Fisk
| Robert Fisk | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Gorffennaf 1946 Maidstone |
| Bu farw | 30 Hydref 2020 o strôc Dulyn |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, hanesydd, ysgrifennwr, gohebydd rhyfel |
| Cyflogwr |
|
| Priod | Lara Marlowe, Nelofer Pazira |
| Gwobr/au | Jacob's Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Orwell Prize, Gwobr Diwylliant Rydd Lannan, Gwobr Martha Gellhorn am Newyddiaduraeth, Honorary doctors of Ghent University, Premi Godó de Periodisme, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, James Cameron Memorial Trust Award, Foreign Reporter of the Year, Foreign Reporter of the Year, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Caerhirfryn, honorary doctor of Queen's University Belfast, Doethor Anrhydeddus o Brifysgol Caint, honorary doctorate from the American University of Beirut, Carey McWilliams Award, doctor honoris causa |
| Gwefan | http://www.independent.co.uk/opinion/commentators/fisk/ |
Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Robert Fisk (12 Gorffennaf 1946 – 30 Hydref 2020) a oedd yn ddinesydd Prydeinig a Gwyddelig.[1][2]
Roedd yn ohebydd rhyngwladol a ysgrifennodd am y rhyfeloedd cartref yn Lebanon, Algeria a Syria, Rhyfel Irac ac Iran, y rhyfeloedd ym Mosnia a Chosofo, y Chwyldro Islamaidd yn Iran, ymosodiad Saddam Hussen ar Coweit, ymosodiad a meddiannaeth Iraq gan yr Unol Daleithiau. Roedd yn rhugl yn Arabeg,[3] ac ymhlith y newyddiadurwyr Gorllewinol prin i gyfweld ag Osama bin Laden, gan wneud hynny deirgwaith rhwng 1993 a 1997.[4][5]
Cychwynnodd ei yrfa ar y Sunday Express. Aeth ymlaen i weithio ar The Times fel gohebydd yng Ngogledd Iwerddon, Portiwgal a'r Dwyrain Canol lle'r oedd wedi ei leoli yn Beirut yn achlysurol ers 1976. Wedi 1989, bu'n gweithio i'r Independent.[6] Enillodd Fisk nifer o wobrau newyddiaduraeth Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys y wobr Newyddiadurwr Tramor y Flwyddyn saith o weithiau.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Robert Fisk: Celebrated Middle East correspondent of The Independent dies aged 74". The Independent (yn Saesneg). 1 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.
- ↑ "Veteran journalist and author Robert Fisk dies aged 74". Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Tachwedd 2020.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Fisk, Robert. The Great War for Civilisation: The Conquest of the Middle East. Fourth Estate. tt. 1–39. ISBN 1-84115-007-X.
- ↑ "Honoured War Reporter Sides With Victims of Conflict" (yn Saesneg). New Zealand Press Association. 4 Tachwedd 2005.
- ↑ "Robert Fisk". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.