Prilep
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 63,308 |
| Cylchfa amser | CET, CEST |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Sant Nicolas |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Prilep, Strymon |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,194.44 km² |
| Uwch y môr | 620 metr |
| Cyfesurynnau | 41.3464°N 21.5542°E |
| Cod post | 7500 |
![]() | |
Dinas yng Ngogledd Macedonia yw Prilep (Tyrceg: Perlepe). Saif i dde'r brifddinas Skopje, ar y rheilffordd rhwng Titov Veles a Bitola.
Roedd Prilep yn ganolfan bwysig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae sawl eglwys a mynachlog o'r cyfnod hwnnw gan gynnwys Eglwys Sant Niclas, a adeiladwyd ym 1299 ac sydd yn enwog am ei ffresgoau, a Mynachlog yr Archangel Mihangel ac Eglwys Sant Demetrius, y ddau ohonynt a godwyd yn y 14g. Ar un pryd bu Stefan Dušan, Brenin Serbia o 1331 i 1346, yn byw yma. Prilep oedd man geni Marko Kraljević, Brenin Serbia o 1371 i 1395, ac un o brif arwyr y Balcanau yn y frwydr yn erbyn yr Otomaniaid. Mae olion o Gastell Prilep, a godwyd gan y Brenin Marko, yn sefyll hyd heddiw.
Prilep yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yng Ngogledd Macedonia ac yn brif ganolfan i fasnach a gweithgynhyrchu yn ardal Pelagonia. Tyfir ffrwythau a thybaco yn iseldiroedd ffrwythlon Basn Prilep, ac yma hefyd cynhyrchir tecstilau, gwin, a lledr. Gwneir briciau silica a defnyddiau ynysol o ddiatomit yn y ddaear.[1]
Gostyngodd y boblogaeth o 71,899 ym 1994[2] i 66,246 yn 2002, ac i 64,830 yn 2016.[1]
