Pienza
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,976 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Nawddsant | Andreas |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Siena |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 122.96 km² |
| Uwch y môr | 491 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Castiglione d'Orcia, Chianciano Terme, Radicofani, San Quirico d'Orcia, Torrita di Siena, Trequanda, Montalcino, Montepulciano, Sarteano |
| Cyfesurynnau | 43.07861°N 11.67889°E |
| Cod post | 53026 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Pienza |
![]() | |
Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Pienza. Saif yn nhalaith Siena a rhanbarth Toscana, heb fod ymhell o Montepulciano. Mae 490 medr uwch lefel y môr, ac heb fod ymhell o'r llosgfynydd Monte Amiata. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,151.
Pienza oedd man geni Pab Pius II (1458–1464); enw'r lle bryd hynny oedd Corsignano. Pan ddaeth Pius yn Bab, penderfynodd ail-adeiladu ei bentref genedigol, ac o'r herwydd mae yno gasgliad arbennig iawn o adeiladau'r cyfnod. Yn 1996, dynodwyd canol hanesyddol Pienza yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae hefyd yn adnabyddus fel man cynhyrchu caws Pecorino, a wneir o laeth dafad.
