Palas Whitehall
| Math | cyn-adeilad, palas |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Westminster |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5044°N 0.1256°W |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
Prif gartref brenhinoedd Lloegr o 1530 hyd 1698 oedd Palas Whitehall yn Westminster. Symudodd Harri VIII y breswylfa frenhinol i Whitehall ar ôl i'r hen ystafelloedd brenhinol ym Mhalas San Steffan gerllaw gael eu dinistrio gan dân. Fodd bynnag, dinistriwyd y rhan fwyaf o Balas Whitehall yn ei dro gan dân yn 1698. Y rhan pwysicaf o'r cyfadeilad s'yn dal i fodoli yw Tŷ Gwledda Inigo Jones a adeiladwyd yn 1622. Er nad yw Palas Whitehall wedi goroesi, mae’r ardal lle cafodd ei leoli yn dal i gael ei alw’n Whitehall ac mae wedi parhau’n ganolfan i lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ar un adeg, Whitehall oedd y palas mwyaf yn Ewrop, gyda mwy na 1,500 o ystafelloedd, cyn ei hun yn cael ei oddiweddyd gan Balas Versailles, a oedd yn ehangu, a oedd â 2,400.
