Neidio i'r cynnwys

Ozzy Osbourne

Oddi ar Wicipedia
Ozzy Osbourne
FfugenwOzzy Osbourne Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata
Marston Green, Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 2025 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Jordans Edit this on Wikidata
Label recordioEpic Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcanwr, cerddor, canwr roc, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth metel trwm, cerddoriaeth roc caled, metal trwm traddodiadol, doom metal, shock rock, glam metal Edit this on Wikidata
Math o laistenor, bariton Edit this on Wikidata
TadJack Osbourne Edit this on Wikidata
MamLillian Unitt Edit this on Wikidata
PriodThelma Riley, Sharon Osbourne Edit this on Wikidata
PlantElliot Kingsley, Jessica Osbourne, Louis Osbourne, Aimee Osbourne, Kelly Osbourne, Jack Osbourne Edit this on Wikidata
PerthnasauElliot Kingsley Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrammy Award for Best Metal Performance, Grammy Award for Best Metal Performance, Grammy Award for Best Metal Performance, Grammy Award for Best Metal Performance, Grammy Award for Best Rock Album, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Rock and Roll Hall of Fame, MTV Europe Music Award for Global Icon Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ozzy.com Edit this on Wikidata
llofnod

Canwr, cyfansoddwr caneuon a phersonoliaeth teledu oedd John Michael "Ozzy" Osbourne (3 Rhagfyr 194822 Gorffennaf 2025). Daeth yn enwog yn y 1970au fel prif leisydd y band Black Sabbath. Roedd hefyd yn artist unigol a ennillodd nifer o wobrau. Serennodd ef a'i deulu yn y rhaglen deledu realiti am eu bywyd, The Osbournes.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Osbourne yn Aston, rhan o ddinas Birmingham, Lloegr, a dyna lle dreuliodd rhan fwyaf o'i ddyddiau cynnar.[1] Dywed i Osbourne ddioddef o anhawsterau dysgu (honir iddo fod yn dyslexic,[2][3]) gan wneud ei fywyd ysgol yn anodd.[1]

Y ddiweddarach, ffurfiodd Ozzy Osbourne fand ynghyd â chyn cyd-ddisgybl yn yr ysgol, Tony Iommi. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd roc seicadelig yn boblogaidd iawn. I wahaniaethu eu hunain o'r dorf arferol, penderfynodd Iommi a'i bartneriaid wneud cerddoriaeth a oedd wedi ei ddylanadu'n drwm gan y blŵs gyda geiriau tywyll.[4] Amrywiodd enw'r band gan gynnwys Polka Tulk and Earth. Yn ystod ymarferion un diwrnod, sylwodd y band ar bobl yn ciwio tu allan i sinema lle roedd ffilm arswyd yn cael ei ddangos, sylwodd y chwarawr gitâr fâs, Geezer Butler, faint mor rhyfedd oeddi fod pobl yn hoffi cael eu dychryn. 'Black Sabbath', a gyfarwyddwyd gan Mario Bava oedd y ffilm. Wedi darllen llyfr yr ocwlt a fenthycodd gan Osbourne, cafodd Butler freuddwyd am ffigwr tywyll ar ben ei wely. Ysgrifennodd geiriau'r gân "Black Sabbath" yn dilyn hyn, un o'u caneuon cyntaf yn y steil newydd tywyll. Hon oedd prototype i steil diweddarach eu gyrfa.[5]

Black Sabbath

[golygu | golygu cod]

Er iddynt ond dderbyn buddsoddiad modest gan y label recordio Warner Bros. Records, fe gafodd Black Sabbath lwyddiant sydyn a pharhaol. Adeiladwyd y llwyddiant o gwmpas riffs gitâr Tony Iommi, geiriau Geezer Butler, wedi ei goroni gan lais iasol Osbourne. Fe werthodd eu recordiau cynnar, megis eu albwm cyntaf hunan enwyd a Paranoid, mewn niferoedd enfawr a chael eu chwarae ar yr awyr.

Gyrfa unigol

[golygu | golygu cod]

Fe gollodd Osbourne ei le fel aelod o Black Sabbath yn 1979, yn bennaf oherwydd ei fod yn annibynadwy oherwydd ei ganmddefnydd o gyffuriau. Roedd holl aelodau'r band yn defnyddio cyffuriau, ond fe ddefnyddiodd Osbourne lawer mwy. Cymerodd cyn-ganwr Rainbow, Ronnie James Dio, ei le.[5]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd ganddo ddau o blant, Jessica and Louis, o'i briodas cyntaf i Thelma Riley. Roedd yn briod â Sharon, ac roedd ganddynt tri o blant - Aimee, Kelly and Jack.

Bu'n dioddef o afiechyd Parkinsons a phroblemau iechyd arall yn ei flynyddoedd olaf, ers cael ei anafu mewn cwymp yn 2019.

Chwaraeodd ei gig olaf gyda Black Sabbath yn stadiwm Villa Park ar 6 Gorffennaf 2025.[6]

Bu farw wythnosau yn ddiweddarach ar 22 Gorffennaf 2025. Cafwyd datganiad gan ei deulu yn dweud "Gyda thristwch na all geiriau gyfleu, rydym yn gorfod cyhoeddi bod ein hannwyl Ozzy Osbourne wedi marw y bore ma ... Roedd gyda'i deulu ac wedi ei amgylchynu gan gariad".[7]

Gitârwyr

[golygu | golygu cod]

Gyda Black Sabbath

[golygu | golygu cod]

Unigol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1  Ross Johnson (Ionawr 2005). What I've Learned: Ozzy Osbourne. Esquire (cylchgrawn).
  2.  Bryan Appleyard (27 Tachwedd 2005). Blizzard of Oz. The Sunday Times (cylchgrawn).
  3.  CNN.com ?.
  4.  Barry Weber, a Greg Prato (cyd-awdur) (2007). Ozzy Osbourne - Biography.
  5. 5.0 5.1  William Ruhlmann (2003). Black Sabbath - Biography. All Music Guide.
  6. "Ozzy Osbourne dies just weeks after farewell show". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-22.
  7. "Ozzy Osbourne wedi marw yn 76 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-22. Cyrchwyd 2025-07-22.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: