Otto Neurath
| Otto Neurath | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Rhagfyr 1882 Fienna |
| Bu farw | 22 Rhagfyr 1945 Rhydychen |
| Man preswyl | Fienna |
| Dinasyddiaeth | Awstria |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | economegydd, athronydd, cymdeithasegydd |
| Swydd | cyfarwyddwr amgueddfa |
| Prif ddylanwad | Ernst Mach |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria |
| Tad | Wilhelm Neurath |
| Mam | Gertrud Neurath |
| Priod | Olga Hahn-Neurath, Marie Neurath, Anna Schapire-Neurath |
Athronydd a chymdeithasegydd o Awstria oedd Otto Neurath (10 Rhagfyr 1882 – 22 Rhagfyr 1945).[1] Dadleuodd dros "Undod y Gwyddorau" a chymwyso athroniaeth er budd gwyddoniaeth. Defnyddiodd positifiaeth resymegol i lunio sail i ddamcaniaeth economaidd ymddygiadol.
Cafodd ei addysg yn Fienna a Berlin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhan o weriniaeth gomiwnyddol Bafaria, a chafodd ei garcharu am hynny. Dychwelodd i Fienna i ymgyrchu dros ddiwygiadau Marcsaidd, ac yno bu'n rhan o Gylch Fienna. Fe drefnodd cynadleddau rhyngwladol mewn ymdrech i hybu'r cyfathrebu rhwng disgyblaethau'r gwyddorau, a golygodd y gwyddoniadur International Encyclopedia of Unified Science (1937). Symudodd i'r Iseldiroedd ym 1934, ac i Loegr ym 1941 i ffoi o'r Natsïaid.
Ysgrifennodd Neurath ar amryw bynciau, gan gynnwys systemau dosbarthu, cymdeithaseg gymharol, ac economeg.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Fienna yn fab i'r economegydd Iddewig Wilhelm Neurath a'i wraig Gertrud Kaempffert. Cafodd Otto ei fagu'n Gatholig.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Otto Neurath. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.
- ↑ (Saesneg) Otto Neurath, Stanford Enyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.