Neidio i'r cynnwys

Osroene

Oddi ar Wicipedia
Osroene
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasEdessa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Aramaeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladOsroene Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.1583°N 38.7917°E Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Edessa (gwahaniaethu).

Roedd Osroene (a sillafir hefyd yn Osrohene neu Osrhoene) (Syrieg: ܡܠܟܘܬܐ ܕܒܝܬ ܥܣܪܐ ܥܝܢܐ), a adnabyddir yn ogystal dan enw ei phrifddinas, Edessa (Şanlıurfa, Twrci, heddiw), yn deyrnas Assyriaidd a fwynhaodd raddfa sylweddol o ymreolaeth a orffennodd mewn annibyniaeth yn y cyfnod 132 CC i OC 244. Cyn hynny roedd yn dalaith yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Talaith Rufeinig Osroene yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Roedd tiriogaeth y deyrnas a'r dalaith ar ran uchaf dyffryn Afon Ewffrates, a daeth yn faes ymgiprys i bwerau mawr Asia Leiaf, Persia, Syria, a'r Armenia hynafol oherwydd ei lleoliad strategol rhwng Asia Leiaf, y Lefant a Mesopotamia.

Daeth yn rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr. Ar ôl cwymp Ymerodraeth y Seleuciaid, cafodd ei rhannu rhwng Rhufain a Parthia.

Yn y flwyddyn 201, mabwysiadodd Osroene y Gristnogaeth fel crefydd swyddogol, y wladwriaeth gyntaf yn y byd i wneud hynny.