Odyseia
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Homeros |
| Gwlad | Groeg yr Henfyd |
| Rhan o | Homeric epics |
| Iaith | Homeric Greek |
| Genre | arwrgerdd |
| Cyfres | Epikos Kyklos |
| Cymeriadau | Odysews, Poseidon, Penelope, Telemachus, Athena, Mentor, Circe, Calypso, Nausicaa, Polyphemus, Zews, Hermes, Nestor, Peisistratus |
| Prif bwnc | Returns from Troy |
| Yn cynnwys | Book I, Book II, Book III, Book IV, Book V, Book VI, Book VII, Book VIII, Book IX, Book X, Book XI, Book XII, Book XIII, Book XIV, Book XV, Book XVI, Book XVII, Book XVIII, Book XIX, Book XX, Book XXI, Book XXII, Book XXIII, Book XXIV |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Y Môr Canoldir |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05lm8 |


Un o'r ddwy gerdd fawr a briodolir i'r bardd Groeg Homeros ydy'r Odyseia (Hen Roeg: Οδύσσεια). Fel rheol, ystyrir bod y gerdd wedi ei chyfansoddi rhwng 800 a 600 CC. Mae'n fath ar ddilynianti gerdd fawr arall Homeros, yr Iliad, ac yn rhoi hanes yr arwr Groegaidd Odysews (neu Wlysses) a'i daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid feddiannu Caerdroea.
Mae'r daith adref o Gaerdroes yn cymryd deng mlynedd, ac mae Odysseus yn wynebu llawer o beryglon ar y ffordd. Caiff ei achub rhagddynt yn rhannol trwy gymorth y dduwies Athena, ond i raddau helaeth trwy ei gyfrwystra ef ei hun. Er enghraifft, pan mae'n cael ei ddal gan y Seiclops Polyphemus, mae'n dweud wrtho mai ei enw yw "Neb". Mae wedyn yn llwyddo i ddallu Polyphemus; a phan mae yntau'n galw am gymorth daw'r Seiclopsiaid eraill i weld beth sy'n digwydd. Pan maent yn holi Polyphemus pwy sy'n ei boeni, mae'n ateb "Neb". Mae Polyphemus yn fab i dduw'r môr, Poseidon, sy'n troi'n elyn i Odysews.
Mae'n treulio saith mlynedd yn garcharor y nymff Calypso, nes i Athena ei pherswadio i'w ollwng yn rhydd. Erbyn iddo gyrraedd adref i Ithaca, mae wedi bod oddi catref am ugain mlynedd i gyd, ac mae ei dŷ yn llawn o ddynion sy'n dymuno priodi ei wraig, Penelope, gan gredu ei bod bellach yn weddw. Mae Odysews yn lladd y rhain i gyd.
Llinellau cyntaf yr Odyseia yn Ngymraeg (o Groeg gyda Google Translate): "Ymddangosodd dyn i mi, Muse, dyn amlochrog, a oedd wedi dioddef llawer o ddrygau, ac a oedd wedi croesi gwastadedd cysegredig Troea; llawer o ddynion nad oedd yn eu hadnabod, na'r esgyrn na'r meddwl, llawer a oedd wedi dioddef poenau yn nyfnderoedd y môr, a oedd wedi..."