Neidio i'r cynnwys

Melbourne

Oddi ar Wicipedia
Melbourne
Mathdinas, region of Victoria, dinas fawr, ardal fetropolitan, prifddinas y dalaith, canolfan ariannol, metropolis Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam Lamb, 2il Is-iarll Melbourne Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,350,705 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 30 Awst 1835 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Awstralia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd9,993 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr31 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Yarra, Port Phillip Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBarwon South West, Grampians, Loddon Mallee, Hume, Gippsland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.8142°S 144.9631°E Edit this on Wikidata
Cod post3000–3207 Edit this on Wikidata
Map
Arcâd, Stryd Flinders

Melbourne (Woiwurrungeg: Narrm) yw prifddinas talaith Victoria, yn Awstralia. Yn 2015 roedd gan y ddinas boblogaeth o 4,529,500. Melbourne yw dinas fwyaf Victoria, gyda dros 70% o drigolion y dalaith yn byw yno.

Cafodd Melbourne ei sefydlu ym 1835, pan gyrhaeddodd gwladychwyr o Launceston, yn Tasmania. Tyfodd y ddinas yn sylweddol iawn ar ôl 1851, pan ddarganfuwyd aur yn yr ardal rhwng Ballarat a Bendigo, yng nghanolbarth Victoria.

Pan gafodd Awstralia ei annibyniaeth ym 1901, cafodd Melbourne ei wneud yn sedd y llywodraeth, tan 1927, pan wnaed Canberra yn brifddinas newydd y wlad.

Ym 1956 cafodd y Gemau Olympaidd eu cynnal yn y ddinas.

Poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Mae yna nifer o fudwyr wedi symud i Melbourne dros y blynyddoedd. Cafwyd 43% o bobl sy'n byw yn Melbourne eu geni tu allan i Awstralia. Dangosir y cynnydd ym mhoblogaeth Melbourne yn y tabl isod.

Poblogaeth Melbourne
y flwyddyn
1836177
185129,000
1854123,000(gold rush)
1860140,000
1880280,000
1890490,000
1895900,000(cwymp economaidd)
19561,500,000
19812,806,000
19913,156,700(dirwasgiad)
20013,366,542
20043,592,975
20063,720,300(amcangyfrif 2006)
20304,500,000(rhagamcaniad)

Cludiant

[golygu | golygu cod]
Gorsaf reilffordd Stryd Flinders

Trenau

[golygu | golygu cod]
Gorsaf reilffordd Melbourne (Canolog)

Agorwyd rheilffordd rhwng Melbourne a Sandridge (erbyn hyn Porthladd Melbourne) ar 12 Medi 1854 a daeth eraill i Sant Cilda ym 1857, Gogledd Brighton ym 1859, Hawthorn ym 1861 ac Essendon ym 1960. Wedi darganfod aur yn Victoria]], agorwyd rheilffyrdd i Sunbury ym 1859, Bendigo ym 1862 ac Echuca ym 1864.

Trydaneiddiwyd y rheilffyrdd maestrefol o 1919 ymlaen.[1]

Mae Gorsaf reilffordd Stryd Flinders y brif orsaf ar gyfer gwasanaethau lleol, sydd i gyd yn mynd ar gylch tanddaearol o dan ganol y ddinas. Mae rhai o'r gwasanaethau V line i drefi eraill yn dalaith Victoria yn mynd o Stryd Flinders.

Mae gwasanaethau eraill V line tu mewn Victoria, a hefyd gwasanaethau i Adelaide a Sydney yn defnyddio Gorsaf reilffordd Croes y De.

Tramfyrdd

[golygu | golygu cod]
Tram ar Stryd Flinders

Mae gan Melbourne rwydwaith eang o dramffyrdd trydanol. Yn wreiddiol defnyddiwyd ceffylau, ond dechreuodd gwasanaeth rhwng Melbourne a Richmond yn defnyddio ceblau ar 11 Tachwedd 1885 ac estymwyd y rhwydwaith yn sydyn. Dechreuodd tramfyrdd trydanol ym 1889[2]

Bysiau

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gwasanaethau bws yn 1860au, eto'n defnyddio ceffylau.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
Eglwys y Scotiaid a Gwesty Hyatt
Cofeb rhyfel 'Driver a Wipers'
  • Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
  • Eglwys y Sgotiaid
  • Gerddi Fitzroy
  • Maes Criced Melbourne (MCG)
  • Neuadd y Dref
  • Parc Albert
  • Stiwdios radio a theledu ABC
  • Theatr y Dywysoges
  • Tŵr Rialto
  • Tŷ'r Senedd

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Cynhelir criced rhyngdaleithiol a rhyngwladol ym Maes criced Melbourne yn ystod yr haf, a Pel-droed rheolau Awstraliaidd yn ystod y gaeaf.[3]

Cynhelir rasau ceffylau ar Gae Râs Flemington.[3]

Cynhelir Grand Prix Awstralia ym Mharc Albert.[3] Mae hefyd llyn a chlwb hwylio yn y parc.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gefeilldrefi

[golygu | golygu cod]
Cofadail Rhyfel Melbourne

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Tudalennau hanes ar wefan ptv.vic.gov.au". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-26. Cyrchwyd 2016-12-07.
  2. ↑ public-transport/ Tudalennau hanes ar wefan ptv.vic.gov.au[dolen farw]
  3. 1 2 3 Gwefan australia.com

Dinaswedd

[golygu | golygu cod]
Ardal Dociau Melbourne
Ardal Dociau Melbourne