Liechtenstein
| Fürstentum Liechtenstein | |
| Arwyddair | Für Gott, Fürst und Vaterland |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
| Enwyd ar ôl | Teulu Tywysogaidd Liechtenstein |
| Prifddinas | Vaduz |
| Poblogaeth | 37,922 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Oben am jungen Rhein |
| Pennaeth llywodraeth | Daniel Risch |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cydffederasiwn yr Almaen, Ardal Economeg Ewropeaidd |
| Arwynebedd | 160 km² |
| Gerllaw | Afon Rhein |
| Yn ffinio gyda | Y Swistir, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd |
| Cyfesurynnau | 47.145°N 9.55389°E |
| Cod post | 9485–9498 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Cabined Liechtenstein |
| Corff deddfwriaethol | Landtag of Liechtenstein |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Tywysog Liechtenstein |
| Pennaeth y wladwriaeth | Hans-Adam II, Tywysog Liechtenstein |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Liechtenstein |
| Pennaeth y Llywodraeth | Daniel Risch |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $7,186 million |
| Arian | franc Swisaidd |
| Cyfartaledd plant | 1.45 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.935 |
Gwlad fechan yng ngorllewin Ewrop rhwng y Swistir ac Awstria yw Tywysogaeth Liechtenstein neu Liechtenstein.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r mynyddoedd yn codi o Ddyffryn Rhein i uchderoedd o dros 2500m (8000').

Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd y dywysogaeth ei ffurfio trwy uniad siroedd Vaduz a Schellenberg yn 1719. Bu'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig hyd 1806. Ffurfiodd y wlad undeb doll â'r Swistir yn 1923. Hyd at 1984 nid oedd gan ferched hawl i bleidleisio yn yr etholiad cenedlaethol.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Yr Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gatholigion a'r Eglwys Gatholig yw eglwys swyddogol y wlad.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Fel yng Nghymru mae tîm pêl-droed mawr Liechtenstein; FC Vaduz, yn chwarae yn y wlad drws nesaf sef y Swistir. Ar y lefel rhyngwladol mae tîm Leichtenstein yn chwarae ym mhencampwriaethau Ewrop, a'r Byd. Ar ben hyn mae un tîm o Gwpan Liechtenstein yn cael mynediad i'r UEFA Europa League, ac hyd yn oed wedi curo tîm o Latfia yn y European Cup Winners' Cup ym 1996.
Yn rhyngwladol maen nhw wedi trechu: Portiwgal 2-2 yn 2004 Lwcsembwrg 4-0 yn 2006 Gwlad yr Ia 3-0 yn 2007. Latfia 1-0 yn 2008
Yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf enillodd y Leichtensteinwraig Hanni Wenzel Fedal Aur a Medal Arian ym 1980. Mae dinasyddion eraill o'r wlad hefyd wedi ennill medalau, er bod ei phoblogaeth tua 1% o boblogaeth Cymru.

Economi
[golygu | golygu cod]Er bod diwydiant ysgafn yn bwysig, twristiaeth yw un o brif ffynonellau incwm. Mae gwerthu stampiau hefyd yn bwysig i'r economi, on nid y o gymharu ag Arian. Mae diwydiant arian yn creu o leiaf 30% o drethi Leichtenstein. A chyda tua 73,700 o gwmnïau yno mae mwy nag un cwmni i bob dinesydd. Ar ben hyn mae 'sefydliadau' neu Stiftungen cofrestredig yn Leichtenstein yn cadw arian a chyfoeth miloedd o dramorwyr di-breswyl yn saff rhag awdurdodau treth y byd. Treth uchaf i fusnesau fel hyn yw 20%, a chan fod angen aelod leol i bob cwmni mae cyfreithwyr masnachol y wlad yn elwa yn sylweddol.
- Treth incwm yw 1.2%.
- Treth leol bob comiwn yw 16.5%
- Yswiriant Cenedlaethol 4.3%
- Treth Etifeddu yn dechrau o 0.5%
O Awst 2009, mae llywodraeth Prydain wedi cytuno i rannu gwybodaeth ar y 5,000 o Brydeinwyr a'u £3biliwn mewn ymddiriedolaethau yn y wlad [1] yn ôl safle we y BBC.
