Lemon
Gwedd
| Lemon | |
|---|---|
| Citrus x lemon | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Sapindales |
| Teulu: | Rutaceae |
| Genws: | Citrus |
| Rhywogaeth: | C. x limon |
| Enw deuenwol | |
| C. x limon (L.) Burm.f. | |
Ffrwyth sitrws yw lemon neu lemwn (Citrus × limon). Mae'n tyfu mewn hinsawdd gynnes. Fe'i tyfir yn bennaf am y sudd, er bod gweddill y ffrwyth yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio. Mae tua 5% o asid citrig yn y sudd, sy'n rhoi pH o 2 i 3.
Nid oes sicrwydd o ble y daeth y lemon, ond credir bod y goeden yn tyfu'n wyllt yn India a China. Roedd y lemon wedi cyrraedd de Ewrop erbyn 1g OC.
| Rhif | Gwlad | Maint ( miliwn tunnell) |
Rhif | Gwlad | Maint (miliwn tunnell) |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Mecsico | 1.825 | 9 | Yr Eidal | 0.550 |
| 2 | India | 1.420 | 10 | Twrci | 0.535 |
| 3 | Iran | 1.100 | 11 | Yr Aifft | 0.300 |
| 4 | Sbaen | 1.050 | 12 | Periw | 0.255 |
| 5 | Yr Ariannin | 0.950 | 13 | De Affrica | 0.210 |
| 6 | Brasil | 0.950 | 14 | Tsile | 0.150 |
| 7 | Unol Daleithiau | 0.732 | 15 | Gwatemala | 0.143 |
| 8 | China | 0.618 | 16 | Gwlad Groeg | 0.110 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Handelsblatt Die Welt in Zahlen (2005)

