Latfia
Gwedd
| Latvijas Republika | |
| Arwyddair | I'w fwynhau'n araf! |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad |
| Prifddinas | Riga |
| Poblogaeth | 1,856,932 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Dievs, sveti Latviju |
| Pennaeth llywodraeth | Evika Siliņa |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Latfieg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gwledydd Baltig, Ardal Economeg Ewropeaidd |
| Arwynebedd | 64,593.76 km², 62,226.85 km² |
| Gerllaw | Y Môr Baltig |
| Yn ffinio gyda | Belarws, Estonia, Lithwania, Rwsia, Sweden |
| Cyfesurynnau | 57°N 25°E |
| Cod post | LV-1919 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Latfia |
| Corff deddfwriaethol | Saeima |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Latfia |
| Pennaeth y wladwriaeth | Edgars Rinkēvičs |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Latfia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Evika Siliņa |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $39,725 million, $41,154 million |
| Arian | Ewro |
| Canran y diwaith | 9.4 canran |
| Cyfartaledd plant | 1.52 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.863 |
Gwlad yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Latfia neu Latfia (Latfieg: Latvija). Mae Latfia yn ffinio ag Estonia i'r gogledd, â Lithwania i'r de, ac â Rwsia a Belarws i'r dwyrain. Gwahanir Latfia oddi wrth Sweden yn y gorllewin gan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Latfia, ynghyd ag Estonia a Lithwania. Riga yw prifddinas y wlad. Daeth Latfia yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.

Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth y wlad yn 1,856,932 (1 Ionawr 2025)[1], tua miliwn a hanner yn llai na Chymru. Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Latfieg, yr iaith frodorol.
