Koblenz
| Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, endid tiriogaethol gweinyddol, urban district of Rhineland-Palatinate, prif ddinas ranbarthol |
|---|---|
| Poblogaeth | 115,298 |
| Pennaeth llywodraeth | David Langner |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Nevers, Haringey, Norwich, Maastricht, Novara, Austin, Petah Tikva, Varaždin, Maseru, Chengdu, Haskovo, Rouen |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rheinland-Pfalz |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 105.25 km² |
| Uwch y môr | 73 metr |
| Gerllaw | Afon Rhein, Afon Moselle |
| Yn ffinio gyda | Westerwaldkreis, Rhein-Lahn-Kreis, Mayen-Koblenz |
| Cyfesurynnau | 50.3597°N 7.5978°E |
| Cod post | 56001–56077 |
| Pennaeth y Llywodraeth | David Langner |
![]() | |

Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Koblenz (Coblenz yn yr hen sillafiad), Saif ar afon Rhein lle mae Afon Moselle yn ymuno â hi, 92 km i'r de-ddwyrain o ddinas Cwlen. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 106,000.
Saif Koblenz ar ben gogleddol y rhan o ddyffryn afon Rhein sydd wedi ei gyhoeddi'n Safle Treftadaeth y Byd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Koblenz yn y cyfnod Rhufeinig, pan sefydlodd Drusus wersyll milwrol yma tua 8 CC dan yr enw Castellum apud Confluentes. Dathlodd y ddinas ei 2000 mlwyddiant yn 1992. Gellir gweld olion pont Rufeinig a adeiladwyd yn 49 OC.
Yn y Canol Oesoedd, cipiwyd y ddinas gan y Ffranciaid. Yma y cynhaliwyd y trafodaethau a arweiniodd at arwyddo Cytundeb Verdun yn 843. Anrheithiwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 882. Yn 1018, daeth yn eiddo Archesgob Trier.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Basilica Sant Castor (eglwys)
- Castell Stolzenfels
- Ehrenbreitstein
- Fernmeldeturm Kühkopf
- Goloring
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Anton Diffring (1918-1989), actor
- Valéry Giscard d'Estaing (g. 1926), Arlywydd Ffrainc 1974-81
