Neidio i'r cynnwys

Hermes

Oddi ar Wicipedia
Hermes
Enghraifft o:duw Olympaidd Edit this on Wikidata
Rhan oDeuddeg Olympiad Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03r25 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw o fytholeg Roeg oedd Hermes (Hen Roeg: Ἑρμῆς). Ef oedd cennad i'r duwiau ar Fynydd Olympos. Gallai symud yn gyflym rhwng bydoedd y marwol a'r dwyfol gyda chymorth ei sandalau asgellog. Un o'i ddyletswyddau oedd tywys eneidiau i'r isfyd. Roedd yn cael ei ystyried yn dwyllwr duwiol. Ef oedd amddiffynnydd a noddwr cenhadon dynol, teithwyr, lladron, masnachwyr ac areithwyr.[1][2]

Mewn darluniadau mae'n gwisgo sandalau asgellog a helmed asgellog (neu weithiau dim ond het lydan syml) ac mae'n cydio yn y caduceus – ffon asgellog wedi'i chydblethu â dwy sarff yn cyfathrachu. Mae ei symbolau eraill yn cynnwys y ceiliog a'r crwban.

Yn Rhufain, roedd yn cael ei gyfateb â Mercher.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Powell, Barry B. (2015). Classical Myth (arg. 8th). Boston: Pearson. tt. 177–190. ISBN 978-0-321-96704-6.
  2. Brown, Norman Oliver (1947). Hermes the Thief: The Evolution of a Myth (yn Saesneg). Efrog Newydd: Vintage Books. t. 3.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: