Gustav Mahler
Gwedd
| Gustav Mahler | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Gorffennaf 1860 Kaliště, Kaliště |
| Bu farw | 18 Mai 1911 Fienna |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Cisleithania |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr, cyfansoddwr clasurol, arweinydd band |
| Adnabyddus am | Symphony No. 1, Symphony No. 8, Symphony No. 2, Symphony No. 5, Symffoni Rhif 9 |
| Arddull | cerddoriaeth glasurol, symffoni, cerddoriaeth siambr |
| Tad | Bernhard Mahler |
| Mam | Marie Herrmann |
| Priod | Alma Mahler |
| Plant | Anna Mahler, Maria Anna Mahler |
| Gwefan | http://www.gustav-mahler.org |
| llofnod | |
Cyfansoddwr o Awstria oedd Gustav Mahler (7 Gorffennaf 1860 – 18 Mai 1911). Roedd yn fwyaf enwog yn ystod ei fywyd fel arweinydd opera a cherddorfeydd, ond ers ei farw daethpwyd i'w gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr ôl-ramantaidd pwysicaf. Un o'i weithiau mwyaf poblogaidd yw ei 2ail symffoni, Yr Atgyfodiad.
Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn gweithio yn yr Unol Daleithiau fel cyfarwyddwr cerddorol Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd (1910-11). Ond syrthiodd yn sâl yn 1911 yn Efrog Newydd, ac ar ôl cysylltu gyda meddygon ym Mharis, ddychwelodd gyda'i wraig Alma Mahler i Fienna, Awstria lle bu farw.