Gardd fotaneg
Gwedd
| Enghraifft o: | math o ardd |
|---|---|
| Math | cyfleuster, sefydliad ymchwil, gardd arddangos, GLAM, man gwyrdd, casgliad |
| Yn cynnwys | Jardins botaniques de France et des pays francophones |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0j2hg |
| Thesawrws y BNCF | 21125 |
Gardd sydd â chasgliad o blanhigion byw at ddibenion ymchwil wyddonol, cadwraeth, arddangos ac addysg yw gardd fotaneg. Gall gynnwys casgliadau arbenigol o blanhigion o fathau arbennig, planhigion o rannau penodol o’r byd, neu gynefinoedd penodol ac yn y blaen. Defnyddir tai gwydr yn aml i ddarparu cynefinoedd sy'n addas ar gyfer planhigion nad ydynt yn frodorol i'r ardal.
Fel rheol, mae gerddi botanegol yn cael eu gweithredu gan brifysgolion neu sefydliadau ymchwil gwyddonol eraill, a bydd y staff yn cynnwys botanegwyr yn ogystal â garddwyr. Maent fel arfer ar agor i'r cyhoedd (yn rhannol o leiaf), ac yn cynnig rhaglenni addysgol.