Neidio i'r cynnwys

Frederick Forsyth

Oddi ar Wicipedia
Frederick Forsyth
Ganwyd25 Awst 1938 Edit this on Wikidata
Ashford Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 2025 Edit this on Wikidata
Jordans Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Granada
  • Tonbridge School
  • Yardley Court Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, hedfanwr, gohebydd, ysbïwr, sgriptiwr, newyddiadurwr, ysgrifennwr, foreign correspondent Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Day of the Jackal, The Odessa File, The Outsider Edit this on Wikidata
Gwobr/auEdgar Allan Poe Award for Best Novel, Academi Awduron Trosedd Sweden, Grand Prix de Littérature Policière, Gwobr Martin Bec, Cyllell Ddiamwnt Cartier, CBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.frederickforsyth.co.uk/ Edit this on Wikidata

Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Frederick Forsyth (25 Awst 19389 Mehefin 2025),[1] a aned yn Ashford, Caint.

Ymunodd Forsyth a'r RAF yn 18 mlwydd oed cyn dod yn ohebydd rhyfel i'r BBC a Reuters. Datgelodd yn 2015 ei fod wedi gweithio i'r gwasanaeth cyfrin Prydeinig MI6 am dros 20 mlynedd.[2]

Roedd yn adnabyddus am ei nofelau iasoer am wleidyddiaeth y dydd, yn arbennig The Day of the Jackal (1971) (am gynllwyn i lofruddio Charles de Gaulle), The Odessa File (1972) a The Dogs of War (1974).

Cyhoeddodd mwy na 25 llyfr a gwerthodd dros 75 miliwn o lyfrau o gwmpas y byd.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a'i wraig gyntaf, Carole Cunningham, rhwng 1973 a 1988 a ganwyd dau fab iddynt. Roedd yn briod â'i ail wraig, Sandy Molloy o 1994 hyd ei marwolaeth yn Hydref 2024.

Bu farw Forsyth yn 86 mlwydd oed, wedi salwch byr.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "The Day of the Jackal author Frederick Forsyth dies". BBC News (yn Saesneg). 2025-06-09. Cyrchwyd 2025-06-09.
  2. Lea, Richard (2025-06-09). "Frederick Forsyth, Day of the Jackal author and former MI6 agent, dies aged 86". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-06-09.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.