Ewropa
Gwedd
Ewropa a'r tarw. Crochenwaith, Boeotia, Gwlad Groeg, 5ed ganrif CC. | |
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg, bod dynol ffuglennol |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0cq2s |

Ym mytholeg Roeg, roedd Ewropa (Hen Roeg: Ευρωπη; Lladin: Europa) yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zews yn rhith tarw a'i chymryd ganddo i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. Yng ngweithiau Homer, mae Ewropa yn frenhines chwedlonol o Creta, yn hytrach na dynodiad daearyddol, ond dros y canrifoedd daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir a adnabyddir fel Ewrop heddiw.
Mae chwedl cipio Ewropa gan Iau, a adnabyddir fel rheol fel "Treisiad Ewropa", wedi ysbrydoli nifer o artistiaid a cheir sawl paentiad a llun sy'n ei darlunio.
Roedd hi hefyd yn chwaer i Cadmos.