Eisteddfod
| Math | gŵyl ddrama, gŵyl gerddoriaeth, gŵyl lenyddol, gŵyl ddiwylliannol |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1176 |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01rg97 |
Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw'r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir Eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru a hefyd ym Mhatagonia. Y mwyaf yng Ngymru yw'r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae'r Orsedd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ŵyl symudol.

Creadigaeth gymharol fodern yw'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n esiampl o sut mae gwladgarwch a'r dymuniad i ail-greu traddodiad yn cydorwedd yn daclus yn aml. Efelychiad ohoni yw gŵyl yr Urdd a sefydlwyd yn 1929 ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a sefydlwyd yn 1947. Daeth Eisteddfod y Glowyr i ben yn 2001 (sefydlwyd 1948) wrth i'r diwydiant glo hefyd farw.
Bu'r eisteddfod hefyd yn nodwedd bwysig ar ddiwylliant cymunedau o Gymry alltud yn Lloegr, Awstralia, Gogledd America, Patagonia, a De Affrica.
Cludwyd miloedd o Gymry i Awstralia yn y 19g fel carcharion ac fe gyflwynwyd y traddodiad eisteddfodol i'r wlad. Cynhaliwyd yr Eisteddfod cyntaf yno yn Sydney yn 1839. Erbyn yr 20g a 21g sefydlwyd sawl eisteddfod ar draws y taleithiau Awstralaidd. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys cystadlaethau mewn cerddoriaeth, drama a chelfyddydau perfformio, yn bennaf ar gyfer pobl ifanc.[1]
Eisteddfodau cynnar
[golygu | golygu cod]Y cofnod cyntaf sydd gennym am Eisteddfod yw hwnnw ym Mrut y Tywysogion am yr un a gynhaliwyd yng nghastell Yr Arglwydd Rhys (m. 1197) o Ddeheubarth ym 1176 yn Aberteifi (gweler Eisteddfod Aberteifi, 1176), er na ddefnyddiwyd y gair "eisteddfod" tan 1523. Cynhaliwyd yr ŵyl yno, a chafodd beirdd a cherddorion o ledled y wlad eu gwahodd. Rhoddwyd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd i'r bardd a'r cerddor gorau, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Trefnodd Rhys ddwy gystadleuaeth, yn ôl y Brut: y naill ar gyfer beirdd a'r llall ar gyfer cerddorion.
Yr eisteddfodau nesaf hysbys yw Eisteddfod Caerfyrddin 1450/1 ac Eisteddfodau Caerwys (ym 1523 ac yn 1567). Roedd cystadlu yn elfen gref o'r dair Eisteddfod. Yng Nghaerfyrddin dyfarnwyd cadair arian i Dafydd ap Edmwnt am ddiwygio rheolau'r gynghanedd a'r mesurau caeth.
Adfywiad yr Eisteddfod
[golygu | golygu cod]
Sefydlodd Iolo Morganwg (sef enw barddol Edward Williams) "Orsedd Beirdd Ynys Prydain" ym 1792 er mwyn adfer yr eisteddfod hynafol. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr adfywiad yn Primrose Hill, Llundain.
Ym mis Hydref, 1792, tra'n cyfeirio at adfywiad yr eisteddfod dywedodd "The Gentleman's Magazine":
| “ | This being the day on which the autumnal equinox occurred, some Welsh bards resident in London assembled in congress on Primrose Hill, according to ancient usage. Present at the meeting was Edward Jones who had published his "The Musical and Poetical Reelicks of the Welsh Bards" in 1784 in a belated effort to try to preserve the native Welsh traditions being so ruthlessly stamped out by the new breed of Methodists. | ” |
Eisteddfodau Taleithiol 1819-1834
[golygu | golygu cod]Yn ystod yr 1810au dan arweinyddiaeth Ifor Ceri a'r esgob Thomas Burgess a dan nawdd y Cymmrodorion, sefydlwyd nifer o bwyllgorau rhanbarthol fyddai'n trefnu Eisteddfodau mewn gwahanol rannau o Gymru. Y cyntaf o'r rhain oedd Eisteddfod Caerfyrddin 1819. Er nad oedd y rhain eto'n "Eisteddfodau Cenedlaethol" swyddogol, ac yn hytrach yn cael eu trefnu'n gan bwyllgorau gwahanol, roeddynt yn sylweddol fwy o faint na'r un eisteddfod blaenorol ac yn ddigwyddiadau o bwys cenedlaethol (roeddynt yn Eisteddfodau 'brenhinol' o 1828 ymlaen, a'r Dywysoges Fictoria yn westai swyddogol yn Eisteddfod Biwmares 1832). Byddai'r pwyllgorau'n osgoi cynnal Eisteddfod yn yr un flwyddyn er mwyn osgoi cystadlu yn erbyn ei gilydd. Cynhaliwyd deg eisteddfod taleithiol rhwng 1819 ac 1834:
- Eisteddfod Caerfyrddin 1819
- Eisteddfod Wrecsam 1820
- Eisteddfod Aberhonddu 1822
- Eisteddfod Caerfyrddin 1823
- Eisteddfod y Trallwng 1824
- Eisteddfod Aberhonddu 1826
- Eisteddfod Dinbych 1828
- Eisteddfod Caernarfon 1831
- Eisteddfod Biwmares 1832
- Eisteddfod Caerdydd 1834
Yn ystod yr eisteddfodau taleithiol hyn sefydlwyd nifer o draddodiadau ddaeth yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol yn hwyrach. Eisteddfod Caerfyrddin 1819 oedd y cyntaf lle rhoddwyd rhan sylweddol i Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac am y tro cyntaf hefyd cyhoeddwyd y cyfansoddiadau buddugol. Daeth beirdd fel Eben Fardd, Ieuan Glan Geirionnydd a Caledfryn i enwogrwydd drwy eu llwyddiannau yn yr eisteddfodau hyn.
Arweiniodd Brad y Llyfrau Gleision ym 1846 at anfodlonrwydd ymysg y Cymry a dechreuodd nifer gredu fod angen i'r Cymry greu delwedd genedlaethol newydd ar eu cyfer. Erbyn y 1950au, dechreuodd bobl drafod y syniad o gynnal eisteddfod cenedlaethol er mwyn arddangos diwylliant Cymry. Ym 1858, cynhaliodd John Williams ab Ithel Eisteddfod "Genedlaethol" cyflawn gyda Gorsedd yn Llangollen. Roedd "Eisteddfod fawr Llangollen 1858" yn ddigwyddiad arwyddocaol. Enillodd Thomas Stephens wobr gyda'i draethawd a oedd yn gwrthddweud honiad John Williams (trefnydd y digwyddiad) mai Madog a ddarganfyddodd yr Unol Daleithiau. Am fod Williams yn disgwyl i draethawd Stephens i gefnogi'r chwedl, nid oedd yn barod i wobrwyo Stephens a dywedir i'r sefyllfa fynd yn aflonydd. Yn yr eisteddfod hwn hefyd y gwelwyd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf John Ceiriog Hughes a enillodd wobr am gerdd serch, Myfanwy Fychan of Dinas Brân, a fu'n boblogaidd o'r cychwyn cyntaf. Cred rhai fod hyn yn sgîl y modd y darluniwyd gwragedd Cymru fel gwragedd "deserving, beautiful, moral, well-mannered Welshwoman", a oedd yn gyferbyniad chwyrn i ddarlun Y Llyfrau Gleision o wragedd Cymru fel creaduriaid o foesau amheus.
Crëwyd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl Llangollen ac unwyd yr Orsedd ag ef. Mae gan yr Orsedd yr hawl i gyhoeddi a rheoli tra bod y Cyngor yn trefnu'r digwyddiad. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf go iawn gan y Cyngor yn Ninbych ym 1860 gan seilio'r drefn sy'n parhau tan heddiw.
Y gwahanol fathau
[golygu | golygu cod]Yr Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]
Ystyrir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn brif eisteddfod y wlad, a dyma yw'r ŵyl farddonol a cherddorol cystadleuol fwyaf yn Ewrop. Cynhelir cystadlaethau a pherfformiadau am wyth niwrnod, i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Amrywia lleoliad yr eisteddfod rhwng de a gogledd Cymru am yn ail flwyddyn. Yn 2006, cystadlodd dros 6000 o bobl a mynychwyd yr eisteddfod gan dros 150,000 o bobl.
Gweler rhestr lawn o'r Eisteddfodau Cenedlaethol.
Eisteddfod yr Urdd
[golygu | golygu cod]- Prif: Eisteddfod yr Urdd
Eisteddfod bwysig arall a gynhelir yn flynyddol ydy 'Eisteddfod yr Urdd', sef Eisteddfod ar gyfer ieuenctid Cymru. Yn yr eisteddfod hwn, gwelir pobl ifanc rhwng 7 a 24 yn cystadlu mewn ystod o gystadlaethau canu, llefaru, dawnsio, actio ac offerynnol yn ystod hanner tymor y Sulgwyn. Dywedir mai'r ŵyl hon ydy gŵyl gelfyddydol ar gyfer ieuenctid fwyaf Ewrop.[2] Cynhelir rowndiau lleol a rhanbarthol ymlaen llaw, ac fel gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, amrywia lleoliad Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol. Oherwydd sefydlodd yr Urdd bencadlys i'w hunain yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, bydd yr eisteddfod yn dychwelyd i Gaerdydd bob pedair blynedd.
Gweler rhestr lawn o Eisteddfodau'r Urdd.
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
[golygu | golygu cod]
Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.
Eisteddfod Pantyfedwen (Llanbedr Pont Steffan)
[golygu | golygu cod]Mae Eisteddfod Pantyfedwen yn eisteddfod dridiau a gynhelir ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid dros benwythnos Gŵyl Calan Mai. Sefydlwyd yr eisteddfod gan y gŵr busnes Syr David J. James a wnaeth ei arian yn Llundain tua 1887 lle roedd y teulu'n cynnal busnes llaeth yn ardal Westminster ac wedi hynny cadwyn o sinemâu gan gynnwys y 'super cinema' cyntaf yn Llundain (y Palladium yn ardal Palmers Green) gydag eisteddleoedd i fwy na 2,000 o bobl.
Eisteddfodau Rhanbarthol
[golygu | golygu cod]Ymhlith yr eisteddfodau rhanbarthol mwyaf y mae: Eisteddfod Powys, Eisteddfod Aberteifi[3] ac Eisteddfod Môn.
Eisteddfodau lleol
[golygu | golygu cod]Ceir peth wmbredd o eisteddfodau lleol mewn trefi a phentrefi ledled Cymru gan gynnwys: Eisteddfod Llandudoch, Eisteddfod Gadeiriol yr Hendy, Eisteddfod Llanddeiliolen ac Eisteddfod Bro Aled.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Hanes yr eisteddfod yn y 19eg ganrif ar wefan Amgueddfa Werin Cymru Archifwyd 2006-03-28 yn y Peiriant Wayback
- Cymdeithas Eisteddfodau Cymru Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The History and Significance of Eisteddfods in Australia". Theatre Haus (yn Saesneg). 2023-08-21. Cyrchwyd 2025-09-03.
- ↑ Gwefan Urdd Gobaith Cymru 31-01-2007
- ↑ Gŵyl Fawr Aberteifi