Edvard Munch
| Edvard Munch | |
|---|---|
| Ganwyd | Edvard Munch 12 Rhagfyr 1863 Ådalsbruk |
| Bu farw | 23 Ionawr 1944 Ekely, Oslo |
| Man preswyl | Oslo, Ekely, Edvard Munchs house |
| Dinasyddiaeth | Norwy |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon |
| Adnabyddus am | Death and the Child, Vampire, Y Sgrech, The Girls on the Bridge, Dr. Linde's Sons, From Travemünde, Lothar Linde in Red Jacket, Self-Portrait with the Spanish Flu, Arve Arvesen |
| Arddull | portread, Mynegiadaeth, peintio genre, celf tirlun, hunanbortread |
| Prif ddylanwad | Christian Krohg |
| Mudiad | Symbolaeth (celf), Mynegiadaeth |
| Tad | Christian Munch |
| Mam | Laura Cathrine Munch |
| Gwobr/au | Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth |
| llofnod | |
Arlunydd Norwyaidd oedd Edvard Munch (12 Rhagfyr 1863 – 23 Ionawr 1944). Ei waith enwocaf yw Y Sgrech 1893 (Norwyeg: Skrik). Mae’r llun eiconig wedi dod i sylw cyfryngau'r byd wrth iddo gael ei ddwyn sawl tro ac yn cyrraedd pris syfrdanol ar y farchnad gelf ryngwladol.
Mae ei waith yn ymdrin â themâu seicolegol dwys, ac yn mynegi cyflwr meddyliol cythryblus Munch ei hunain. Bu gwaith Munch yn ddylanwad mawr ar y mudiad celfyddydol Mynegiadaeth (Expressionism) yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Edvard Munch mewn ffermdy cefn gwlad ym mhentref Ådalsbruk yn Løten, Norwy, yn fab i ddoctor. Roedd gan Edvard bedwar o frodyr a chwiorydd.[1]
Symudodd y teulu i ddinas Christiania (Oslo yn awr) ym 1864 pan benodwyd ei dad yn swyddog meddygol milwrol. Bu farw ei fam o'r diciâu (tuberculosis) ym 1869, a hefyd ei hoff chwaer Johanne Sophie ym 1877.[2]
Magwyd y plant gan eu tad a'u modryb Karen. Bu Edvard yn sâl yn aml yn y gaeaf a bu rhaid iddo aros i ffwrdd o'r ysgol. Dechreuodd Edvard ddarlunio ac fe dderbyniodd wersi gan ei gyfeillion ysgol a'r fodryb. Cawsont hefyd wersi hanes a llenyddiaeth oddi wrth ei dad ac fe'u diddanodd gyda straeon ysbrydion arswydus Edgar Allan Poe.[3]
Ysgrifennodd Edvard Munch am ei dad
Roedd fy nhad yn nerfus o ran cymeriad ac yn obsesiynol am grefydd – i'r pwynt o niwrosis. Oddi wrtho 'wnes i etifeddu hadau gwallgofrwydd. Roedd angylion ofn, tristwch a marwolaeth wrth fy ochr ers y diwrnod imi gael fy ngeni."[4]
Gyda'i salwch, awyrgylch gormesol ei blentyndod a'r straeon ysbrydion, datblygodd teimladau angladdol a hunllefau yn Edvard a fu'n amlwg yn ei beintiadau'n ddiweddarach.[5] Darganfuwyd salwch meddyliol yn un o'i chwiorydd, O'r pum brawd a chwaer dim ond un a briododd, ond i farw rhai misoedd ar ôl y briodas.[6] I waethygu sefyllfa'r teulu bu rhaid iddynt symud o hyd o un fflat gwael i'r nesaf oherwydd tlodi.[2]
Erbyn ei arddegau, roedd celf a pheintio wedi dod yn brif diddordeb Munch.[7] Yn 13 oed fe ymddiddorodd yng ngwaith y Gymdeithas Gelf Norwy newydd, a dechreuodd gopïo tirluniau a defnyddio paent olew.[8]
-
Edward Munch gydag ei chwaer Inger
-
1889
-
1902
-
1908-1909
Astudiaethau a dylanwadau
[golygu | golygu cod]Yn 1879, aeth Munch i goleg technegol i astudio peirianneg, gan wneud yn dda mewn ffiseg, cemeg a mathamateg. Dysgodd ddarlunio gyda phersbectif, ond bu'i salwch yn aml yn tarfu ar ei astudiaethau.[9]
Y flwyddyn ganlynol, er mawr siom i'w dad, fe adawodd y coleg yn benderfynol o fod yn beintiwr ac yn 1881, fe gofrestrodd yng Ngholeg Celf a Dylunio Brenhinol Christiana. Ar ddechrau ei yrfa arbrofodd gyda nifer o arddulliau yn cynnwys Naturoliaeth (Naturalism) ac Argraffiadaeth (Impressionism) – gyda rhai o'i weithiau cynnar yn dangos dylanwad Manet. Roedd ei dad yn hynod o feirniadol o'i waith gan falu o leiaf un o'i gynfasau (mwy na thebyg portread o fodel noeth) a gwrthod ei gefnogi'n ariannol.[10]
Daeth Edvard Munch i'r casgliad nad oedd Argraffiadaeth yn cynnig digon o gyfle iddo fynegi ei deimladau a phrofiadau. Yn hytrach na rhoi 'argraff' gyda lliwiau ysgafn o ddelweddau niwlog roedd angen arno 'fynegi' ei deimladau gyda delweddau a lliwiau cryfion. Dechreuodd gyfnod o hunan-ymchwiliad gan ystyried ei gyflwr emosiynol a seicolegol a nodi ei feddyliau mewn 'dyddiadur yr enaid'.[11] O'i ymwybyddiaeth ddyfnach fe ddatblygodd safbwynt newydd, gan beintio Y Plentyn Sâl ym 1886 yn seiliedig ar farwolaeth ei chwaer. Nid oedd ei deulu na'r beirniad yn hapus gyda'r darlun gan ddenu 'ymateb chwerw'.[12] Ym 1889, cynhaliwyd arddangosfa o'i waith ac fel canlyniad fe enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mharis o dan y peintiwr Léon Bonnat.[13]
Paris a Berlin
[golygu | golygu cod]Roedd Munch wrth ei fodd gyda'r cyfle i weld llawer o'r peintiadau celfyddyd fodern a oedd ym Mharis ar y pryd. Bu tri arlunydd yn ddylanwad mawr arno: Paul Gauguin, Vincent van Gogh, a Henri de Toulouse-Lautrec a'r ffordd y defnyddion nhw liwiau i gyfleu emosiwn. Ysbrydolrwyd Munch yn arbennig gan syniadolaeth Gauguin 'ymateb yn erbyn realaeth' – yn mynnu fod 'celf yn waith dynol ac nid copi o natur'.[14]
Ym mis Tachwedd 1889, bu farw ei dad, gan adael teulu Munch heb yr un geiniog. Dychwelodd i Norwy ac fe drefnodd fenthyciad sylweddol gan gasglwr celf gyfoethog pan fethodd perthnasau'r teulu gynnig cymorth.[15] Bu'n ddigalon wedi iddo golli'i dad, a phoenydiwyd ef gan feddyliau o hunanladdiad Rwy'n byw gyda'r meirw – fy mam, fy chwaer, fy nhaid, fy nhad... Lladd dy hun ac wedyn mae drosodd. Pam byw?[16]
Erbyn 1892, roedd Munch wedi ffurfio ei arddull nodweddiadol, a gwreiddiol fel y gwelir yn y cynfas Melancolaidd (1891). Ystyrir hwn gan lawer o feirniad fel ei waith Symbolaidd cyntaf. Arddangoswyd y gynfas yn Oslo ac fe'i wahoddwyd i arddangos ym Merlin.[17] Bu ei waith eto'n achos cwynion ac fe gaewyd yr arddangosfa ar ôl wythnos un unig. Roedd Munch yn hapus gyda'r 'helynt fawr', ac ysgrifennodd mewn llythyr: Nid wyf erioed wedi cael amser mor ddifyr – mae'n anhygoel sut mae rhywbeth mor ddiniwed â pheintiad yn gallu creu cymaint o gynnwrf.’’[18]
Y Sgrech
[golygu | golygu cod]Y Sgrech yw gwaith enwocaf Munch ac un o'r peintiadau mwyaf adnabyddus yn y byd celf i gyd. Mae wedi'i ddadansoddi i symboleiddio pryder a phoen dynoliaeth fodern.[19] Peintiwyd gyda stribedi o liwiau llachar a ffurfiau wedi'u symleiddio, mae person yn cael ei leihau i amlinell o benglog mewn argyfwng emosiynol arteithiol.

Ar yr olwg gyntaf mae’r darlun yn dangos rhywun yn sefyll ar bont, ond golygfa o Ffordd Valhallveien ar fryn Ekberg uwchben dinas Oslo sydd yma, gyda ffens ochr clogwyn ar y dde a dinas Oslo o’r porthladd yn y cefndir.
Mae Y Sgrech yn bodoli mewn sawl ffurf: yn cynnwys dau bastel (1893 a 1895) a ddau beintiad (1893 a 1910). Ceir hefyd sawl print lithograff o 1895 ymlaen.
Fe werthwyd y fersiwn pastel o 1895 am $119,922,500 ym 2012[20]
Cafodd y fersiwn 1893 ei dwyn o Oriel Genedlaethol Oslo ac wedyn eih ailddarganfod ym 1994. Cafodd peintiad 1910 ei ddwyn o Amgueddfa Munch yn Oslo ond ei ailddarganfod yn 2006 gyda pheth difrod.
Gyda'r darlun yma, cyflawnodd Munch ei obaith o gwneud 'astudiaeth o'r enaid, hynny yw fy enaid fy hun'.[21] Ysgrifennodd Munch am y pryder a phoendod personol tu ôl i'r darluniad am sawl blwyddyn roeddwn bron yn wallgof... Ydych chi'n nabod fy llun, 'Y Sgrech'? Roeddwn wedi tynnu i'r terfyn – roeddwn yn sgrechian yn fy ngwaed.. ar ôl hynny wnes i roi'r gorau i garu am byth.[22]
-
1912
-
1921
-
1929
-
1933
Ymddygiad hunan ddinistriol
[golygu | golygu cod]Dychwelodd Munch i Norwy ym 1897 ac yn araf cafodd ei waith beth dderbyniad. Dechreuodd berthynas â Tulla Larsen, merch o dras uchel â meddwl rhydd, ac fe deithion nhw i'r Eidal gyda'i gilydd. Roedd Larsen yn awyddus iddynt briodi ond trodd Munch ei gefn arni a'i chyfoeth sylweddol ym 1900.[23]
Er i'w waith barhau i fod yn ddadleuol ac yn amhoblogaidd gyda llawer, llwyddodd Munch i ddenu nifer o noddwyr dylanwadol yn arbennig o'r Almaen. Derbyniodd nifer o gomisiynau ar gyfer portreadau gan gynnwys ei lun enwog o'r athronydd o Almaenwr Friedrich Nietzsche, 1906.
Achosodd ymddygiad hunan ddinistriol Munch ffrae gydag arlunydd arall, gan arwain at ddamwain gwn ym mhresenoldeb Tulla Larsen, a oedd wedi ymweld ag ef yn y gobaith o ail-ddechrau eu perthynas. Anafodd Munch ddau o'i fysedd yn y ddamwain ac yn y diwedd penderfynodd Larson briodi un o gyfeillion ifanc Munch. Teimlai Much ei fod wedi ei fradychu gyda'r cywilydd yn aros yn ei gof yn hir, ac fe sianelodd ei chwerwder i'w darluniau. Mae Bywyd llonydd (Y Llofruddes) a Marwolaeth Marat 1, 1906-7, yn cyfeirio at y saethu a'i effeithiau emosiynol.[24]
Ym 1903-4, arddangosodd Munch ym Mharis. Yn 1906 fe'i gwahoddwyd gan y grŵp 'Fauve' i agor eu harddangosfa a dangos ei waith ar gyda nhw. Roedd y grŵp 'Fauve' hefyd yn defnyddio lliwiau llachar i gyfleu emosiwn.[25]
Henaint a rhyfel
[golygu | golygu cod]
Yn 1908, arweiniodd cyflwr drwg nerfau Munch, ei yfed ac ymladd iddo fynd i glinig am 8 mis, roedd y driniaeth seicolegol yn cynnwys siociau trydan.[26]
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Gyntaf roedd Munch wedi'i rwygo rhwng ei ffrindiau o arlunwyr yn Ffrainc a'i noddwyr yn yr Almaen. Yn y 1930 fe gollodd lawer o'i noddwyr Almaenig eu cyfoeth i’r Natsiaidd am iddynt fod yn Iddewon.[27] Yn 1937 cafodd 82 o’i weithiau eu dynodi’n 'gelf dirywiedig' (degenerate art) gan y Natsiaidd.[28]
Ym 1940 fe feddiannwyd Norwy gan y Natsiaidd. Roedd Munch yn 76 oed a gyda llawer o'i beintiadau yn ei dŷ roedd yn poeni'n fawr a fyddent gael eu cymryd i ffwrdd. Bu farw Munch yn 80 oed ym 1944. Trefnwyd ei angladd gan Natsiaidd i roi'r argraff fod Munch yn un o'u cefnogwyr.[29]
Mae llun Edvard Munch bellach yn ymddangos ar bapur arian Norwy y kroner.[30]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eggum 1984, t. 15
- ↑ 2.0 2.1 Eggum 1984, t. 16
- ↑ Prideaux 2005, t. 17
- ↑ Prideaux 2005, t. 2
- ↑ Prideaux 2005, t. 19
- ↑ Eggum 1984, t. 137
- ↑ Eggum 1984, t. 22
- ↑ Prideaux 2005, tt. 22–23
- ↑ Prideaux 2005, t. 35
- ↑ Eggum 1984, t. 43
- ↑ Prideaux 2005, t. 83
- ↑ Prideaux 2005, t. 88
- ↑ Eggum 1984, t. 55
- ↑ Eggum, Arne; Munch, Edvard (1984). Edvard Munch: Paintings, Sketches, and Studies. New York: C.N. Potter p61
- ↑ Prideaux 2005, t. 114
- ↑ Prideaux 2005, t. 115
- ↑ Prideaux 2005, tt. 135–137
- ↑ Eggum 1984, t. 91
- ↑ Eggum, Arne; Munch, Edvard (1984). Edvard Munch: Paintings, Sketches, and Studies. New York: C.N. Potter p10
- ↑ Pollard, Chris (3 May 2012). "They paid how Munch for it?". The Sun. London. Cyrchwyd 6 May 2012.
- ↑ Faerna 1995, t. 16
- ↑ Prideaux 2005, t. 152
- ↑ Eggum, Arne; Munch, Edvard (1984). Edvard Munch: Paintings, Sketches, and Studies. New York: C.N. Potter. p174
- ↑ Eggum 1984, t. 214
- ↑ Eggum 1984, t. 190
- ↑ Eggum 1984, tt. 235–236
- ↑ Prideaux 2005, t. 288
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-20. Cyrchwyd 2014-09-16.
- ↑ Prideaux 2005, t. 328
- ↑ "1000-krone note". Notes and coins. Norges Bank. Cyrchwyd 6 May 2012.
- Chipp, Herschel B. (1968). Theories of Modern Art: A Source Book by Artists and Critics. Berkeley: University of California Press. t. 114. ISBN 0-520-05256-0.CS1 maint: ref=harv (link)
- Eggum, Arne; Munch, Edvard (1984). Edvard Munch: Paintings, Sketches, and Studies. New York: C.N. Potter. ISBN 0-517-55617-0.CS1 maint: ref=harv (link)
- Faerna, José María (1995). Munch. New York: Harry N. Abrams. t. 16. ISBN 0-8109-4694-7.CS1 maint: ref=harv (link)
- Prideaux, Sue (2005). Edvard Munch: Behind the Scream. New Haven: Yale University Press. ISBN 978-0-300-12401-9.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Nodyn:MoMA artist
- Edvard Munch Archifwyd 2010-02-11 yn y Peiriant Wayback
- Edvard Munch gwaith a bywgraffiad Archifwyd 2014-05-18 yn y Peiriant Wayback
- Edvard Munch Catalogue Raisonné Archifwyd 2009-03-10 yn y Peiriant Wayback
- Munch at Olga's Gallery Archifwyd 2007-08-31 yn y Peiriant Wayback— oriel ar lein yn cynnwys dros 200 o ddarluniau Munch
- Munch ar artcyclopedia
- Edvard Munch ar WikiGallery.org Archifwyd 2020-09-29 yn y Peiriant Wayback
- Exhibition "Edvard Munch L'oeil moderne"—Centre Pompidou, Paris 2011 Archifwyd 2021-04-20 yn y Peiriant Wayback
- Edvard Munch - Amgeuddfa Genedlathol Norwy
