Dufourspitze
Gwedd
| Math | mynydd, main peak, four-thousander, ultra-prominent peak |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Guillaume Henri Dufour |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Valais |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 4,634 metr |
| Cyfesurynnau | 45.936924°N 7.866757°E |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 2,165 metr |
| Rhiant gopa | Mont Blanc |
| Cadwyn fynydd | Monte Rosa Massif |
![]() | |
Y Dufourspitze, 4634 medr o uchder, yw'r copa uchaf yn y Swistir, a'r ail-uchaf yn yr Alpau ac yng ngorllewin Ewrop ar ôl Mont Blanc.
Mae'r Dufourspitze yn rhan o'r Massif Monte-Rosa yn Alpau Valais, ar y ffin rhwng y Swistir a'r Eidal; saif copa'r Dufourspitze tua 160 meter o'r ffin ar ocht y Swistir.
Yr enw gwreiddiol ar y copa yn y Swistir oedd "Gornerhorn" ac yn yr Eidal "Höchste Spitze". Dim ond yn y 19g y daeth yn glir mae'r un copa oeddyn y ddau. Yn 1863 ail-enwyd y copa ar ôl y cadfridog a chartograffydd Guillaume-Henri Dufour (1787–1875), a wnaeth y map cywir cyntaf o'r Swistir. Dringwyd copa uchaf y mynydd am y tro cyntaf ar 1 Awst 1855.
