Douala
Gwedd
| Math | dinas â phorthladd, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,768,436 |
| Pennaeth llywodraeth | Roger Mbassa Ndine |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | Philadelphia, Akhisar, Rhufain, Trieste, Windhoek, Newark, Dakar, Ouagadougou, Agadir, Durban, Sfax, Taiyuan |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Wouri, Littoral |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 210 km² |
| Uwch y môr | 13 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Wouri |
| Cyfesurynnau | 4.05°N 9.7°E |
| Pennaeth y Llywodraeth | Roger Mbassa Ndine |
![]() | |
Douala yw'r ddinas fwyaf yn Camerŵn a phrifddinas Talaith Arfordirol Camerŵn. Mae'n gartref i borthladd mwyaf y wlad a'i phrif faes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Douala, ac yn brifddinas masnach Camerŵn yn ogystal. Mewn canlyniad, mae'n delio â'r rhan fwyaf o allforion y wlad, e.e. olew, cocoa a choffi, yn ogystal â rhywfaint o fasnachu o Tsiad. Yno hefyd y cynhelir Marchnad Eko, y bwysicaf yn y wlad.
Saif y ddinas ar lannau Afon Wouri, gyda'r ddwy lan yn cael eu cysylltu gan Bont Bonaberi. Yn ôl cyfrifiad yn 1991 roedd tua 1.6 miliwn yn byw yn Douala ond erbyn hyn amcangyfrifir dros 2 filiwn o drigolion yn y ddinas. Mae'r hinsawdd yn boeth a chlos.

Cludiant
[golygu | golygu cod]Cysylltir Douala gan rheilffordd â Yaoundé, Ngaoundéré, Kumba a Nkongsamba.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Llun lloeren o Douala gan Google Earth
- Map Glaw Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
