Neidio i'r cynnwys

Dalmatia

Oddi ar Wicipedia
Dalmatia
Mathardal hanesyddol, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
Poblogaeth852,068 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Croatia Croatia
Arwynebedd12,158 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.81276°N 16.21876°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Croatia, yn dangos Dalmatia mewn glas tywyll

Mae Dalmatia yn diriogaeth ar lannau'r Mor Adriatig, yn awr yn Croatia. Daw'r enw o dalaith Rufeinig Dalmatia.

Ardal fynyddig o tua 12,000 km2 yw Dalmatia, yn cynnwys rhan o'r Alpau Dinarig. Oherwydd hyn mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth o tua 900,000 yn byw yn agos i'r glannau. Mae nifer fawr o ynysoedd hefyd yn perthyn i'r diriogaeth. Y brifddinas ranbarthol yw Split, ac mae dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys Dubrovnik, Zadar a Sibenik.

Yn y cyfnod cyn y Rhufeiniaid, poblogid Dalmatia gan yr Iliriaid. Creodd y Rhufeiniaid deyrnas ddibynnol, ac yna tua chanol yr 2g CC daeth y diriogaeth yn dalaith Rufeinig dan yr enw Dalmatia. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd ac yn nes ymlaen o'r 14eg hyd y 18g daeth yn eiddo Fenis. Wedi cwymp Napoleon daeth yn rhan o Awstria.

Talaith Dalmatia yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf bu cystadlu rhwng Yr Eidal a Yugoslavia am y diriogaeth, ac yn 1921 daeth yn rhan o Yugoslavia. Pan rannwyd Yugoslavia daeth Dalmatia yn rhan o Croatia.

Gyda thalaidd hanesyddol perfeddwlad Croatia, Istria a Slavonia mae'n creu pedair talaith hanesyddol sy'n ffurfio gweriniaeth annibynnol Croatia gyfoes.



Eginyn erthygl sydd uchod am Croatia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato