Astudiaethau natur
| Enghraifft o: | disgyblaeth academaidd, agwedd o hanes, branch of history, eitem a ddylunir |
|---|---|
| Math | gwyddorau naturiol |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01664_ |
Astudiaeth ddisgrifiadol organebau, amgylcheddau, a ffenomenau naturiol eraill, a wneir yn bennaf drwy arsylwi'n uniongyrchol yn hytrach nag arbrofi dan reolaeth, yw astudiaethau natur neu naturiaetheg,[1] maes y naturiaethydd. Mae'n cwmpasu'r arfer draddodiadol o gofnodi planhigion, anifeiliaid, ffyngau, a microbau yn eu cynefinoedd a'u hecosystemau mewn modd systematig, gan nodi eu nodweddion corfforol, dosbarthiad, ymddygiad, a rhyngweithiadau. Dibynna'r naturiaethydd yn aml ar waith maes, gan gynhyrchu nodiadau manwl, darluniadau, a chasgliadau i gofnodi, dogfennu, a chadw pethau byw fel y maent yn ymddangos ac ymddwyn yn eu byd. Mae byd natur neu hanes naturiol yn cyfeirio at y natur a astudir mewn ardal neu gyfnod penodol, er enghraifft byd natur Cymru.
Yn hanesyddol, astudiaethau natur oedd sylfaen y gwyddorau biolegol.[2] Cyn datblygiad dulliau arbrofol modern, bu ysgolheigion megis Aristoteles, Pliniws yr Hynaf, a naturiaethwyr modern cynnar yn catalogio rhywogaethau, disgrifio ymddygiadau, ac ymdrechu i ddosbarthu amrywiaeth bywyd. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar a'r cyfnod modern cynnar, cafodd yr hanesydd naturiol ei gyferbynnu â'r athronydd naturiol, a oedd yn astudio ffenomenau ffisegol a chemegol yn hytrach na biolegol. Cyrhaeddodd y traddodiad disgrifiadol ei anterth mewn gwaith Carolus Linnaeus, a arloesoedd y system dacsonomaidd sydd o hyd yn strwythuro'r dull enwi biolegol. Ymddangosodd amgueddfeydd, gerddi botanegol, a chymdeithasau gwyddonol cynnar mewn rhan i drefnu, diogelu, a lledaenu gwybodaeth am fyd natur.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ naturiaetheg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Chwefror 2025.
- ↑ Bartholomew, George A. (1986). "The Role of Natural History in Contemporary Biology" (yn en). BioScience 36 (5): 324–329. doi:10.2307/1310237. ISSN 0006-3568. JSTOR 1310237. https://www.jstor.org/stable/1310237.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Gerald Durrell a Lee Durrell, The Amateur Naturalist (1983).