Biarritz
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 26,206 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Pyrénées-Atlantiques, Lapurdi, arrondissement Baiona |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11.66 km² |
| Uwch y môr | 27 metr |
| Gerllaw | Bae Bizkaia |
| Yn ffinio gyda | Angelu, Arbonne, Arcangues, Bidart |
| Cyfesurynnau | 43.4806°N 1.5572°W |
| Cod post | 64200 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Biarritz |
![]() | |

Dinas a commune yng Ngwlad y Basg, yn Iparralde sef yng ngwladwriaeth Ffrainc, yw Biarritz (Ffrangeg: Biarritz, Basgeg: Biarritz(e) neu Miarritze). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques. Mae tua 38 km o ddinas Donostia yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn Sbaen. Mae poblogaeth o 26,206 (1 Ionawr 2023).
Mae Biarritz yn enwog am ei thraethau, sy'n denu miloedd o ymwelwyr. Oherwydd poblogrwydd ymdrochi yma, tyfodd o fod yn bentref pysgota bychan yn 1843 pan ddarganfu Victor Hugo y lle, i fod yn ddinas bwysig erbyn diwedd y 19g. Yn 1854, adeiladodd yr ymerodres Eugénie, gwraig Napoléon III, balas yma. Adeiladwyd y casino enwog yn 1901.
