Alice Margaret Evans
| Alice Margaret Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Awst 1927 Penderyn |
| Bu farw | 26 Mawrth 1981 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | botanegydd, ymchwilydd |
| Cyflogwr |
|
Botanegydd a genetegydd planhigion arloesol o Gymru oedd Alice Margaret Evans (2 Awst 1927 – 26 Mawrth 1981). Roedd yn enwog am ei chyfraniadau at wella ansawdd cnydau, yn enwedig cnydau porthiant anifeiliaid, fel meillion (Trifolium) a meillion y ceffylau (Medicago).
Ganwyd hi ar fferm ger Penderyn yn y Bannau Brycheiniog, a sbardunwyd ei diddordeb mewn amaethyddiaeth yn gynnar yn ei phlentyndod. Graddiodd mewn botaneg o Brifysgol Aberystwyth ym 1948. Yna trodd ei gorwelion tua Sweden lle astudiodd cytoleg ym Mhrifysgol Lund cyn dychwelyd i Gymru. Yn 1950, ymunodd Evans â Gorsaf Bridio Planhigion Cymru (sydd bellach yn rhan o'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth), lle canolbwyntiodd ar raglenni bridio genetig i wella cynnyrch, ymwrthedd i afiechydon a gwerth maethol mewn cnydau porthiant.[1][2] Teitl ei doethuriaeth, a gyflawnodd tra yn Aberystwyth, oedd: Interspecific relationships within the genera Trifolium and Medicago (1957).[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn y 1960au, canolbwyntiodd ar ffa, gan ddatblygu mathau gwydn a oedd yn cefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy mewn hinsoddau tymherus. Ym 1964 penodwyd Evans i addysgu botaneg amaethyddol ym Mhrifysgol Reading.[2]
Yn y 1970au, symudodd i Adran Bioleg Gymhwysol Prifysgol Caergrawnt, gan gydweithio ar brosiectau rhyngwladol tan ei hymddeoliad yn y 1990au. Arbenigodd yn y ffeuen gyffredin, y Phaseolus vulgaris'.[2] Cydweithiodd â Joseph Hutchinson, arbenigwr mewn geneteg ac esblygiad planhigion cnydau yng Nghaergrawnt, i ddatblygu rhaglen bridio ffa a chyn hir roedd yn rheoli'r prosiect ar ei liwt ei hun. Un nod oedd creu banc o enynnau ar gyfer ffa, ac un arall i ddatblygu amrywiaeth well o ffa corrach er mwyn eu tyfu yn y DU.
Mewn yn arleosi
[golygu | golygu cod]Roedd Evans yn arloeswraig mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), o ran menywod, a hyrwyddodd egwyddorion ffeminyddiaeth mewn addysg uwch a derbyn anrhydeddau fel Medal Ymchwil y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol (1985) a chymrawd yn y Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2013).
Ni phriododd erioed, gan ymroi ei bywyd i ymchwil, a bu farw yng Nghaergrawnt yn 53 oed. Mae ei hetifeddiaeth yn parhau trwy fathau o gnydau gwell a ddefnyddir o hyd mewn ffermio yng Nghymru ac yn fyd-eang.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Obituary: Dr. Alice Evans". The Times (60896). Llundain. 1981-04-07. t. 14. Cyrchwyd 2025-09-02.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Bottino, Erin. "Evans Biography". Arizona State University - Digital Innovations Group. Cyrchwyd 5 Ionawr 2025.