Neidio i'r cynnwys

Alemanni

Oddi ar Wicipedia
Alemanni
Enghraifft o:grwp ethnig hanesyddol, cydffederasiwn Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAlamannia Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0q6g edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd yr Alemanni, Allemanni neu Alamanni yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf Afon Main, yn awr yn yr Almaen. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r 3g ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith Germania Superior. O'r 5g ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i Alsace a chyrraedd dyffrynnoedd yr Alpau erbyn yr 8g. Ffurfiasant wlad Alemannia, oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y Ffranciaid. Collodd Allemania ei hunaniaeth pan ymgorfforodd Siarl Martel y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr 8g.

Ewrop ar gwymp Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn 476 OC

Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn Ffrangeg (Allemagne) ac yn Sbaeneg (Alemania).

Rhestr o reolwyr yr Alemanni

[golygu | golygu cod]
Brenhinoedd
Dugiaid dan reolaeth y Ffranciaid